Ein Gweithwyr Maes, sy’n unigryw i Epilepsi Cymru, yw ‘gweithwyr rheng flaen’ y sefydliad. Maen nhw’n helpu pobl ag epilepsi, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn uniongyrchol ac yn gyfrinachol drwy:
- Gysylltu â phobl sydd angen cymorth a chyngor, drwy glinigau neu yn y gymuned.
- Rhoi cyngor a gwybodaeth am epilepsi a’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael.
- Cefnogi pobl i reoli problemau y mae pobl ag epilepsi yn eu profi.
- Sefydlu rhwydweithiau o gysylltiadau yn y sectorau gofal gwirfoddol a statudol.
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, gweithwyr gofal, athrawon, cyflogwyr ac ati, am epilepsi a’i effeithiau.
- Hyrwyddo Grwpiau Cefnogi ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan epilepsi.
- Sefydlu rhwydweithiau o gysylltiadau yn y sectorau gofal gwirfoddol a statudol