I wneud hyn mae’n rhaid i ni weithio i sicrhau bod yr holl bobl ag epilepsi fynediad at y cyngor a’r cymorth mwyaf priodol i reoli eu cyflwr a’u bod yn gallu byw eu bywydau yn rhydd o stigma, rhagfarn a gwahaniaethu.

Mae ein rhwydwaith o grwpiau o gwmpas Cymru yn tyfu drwy’r amser ac maen nhw’n rhoi cyfle gwych i bobl rannu profiadau ac i gefnogi ei gilydd. Mae ein grŵp Facebook caeedig yn cynnig y cyfle i aelodau gysylltu ag eraill a rhannu profiadau a phryderon.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith cysylltwch â ni ar 0800 228 9016 neu e-bostio  info@epilepsy.wales