Mae epilepsi yn gyflwr niwrolegol difrifol cyffredin lle mae tuedd i gael ffitiau rheolaidd sy’n dechrau yn yr ymennydd. Fel arfer byddwch rhywun yn cael diagnosis o epilepsi wedi iddo/iddi gael mwy nag un ffit yn unig.

Mae profiad pob person o epilepsi yn unigryw. Yng Nghymru mae tua 32,000 o bobl, neu 1 mewn 94, yn dioddef o’r cyflwr. Gall anwybodaeth cyhoeddus a chamsyniadau am epilepsi arwain at ofn a rhagfarn. I fynd i’r afael â hyn, rydym yn hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau a hyfforddiant i sicrhau bod dealltwriaeth well am epilepsi. Mae bod yn wybodus am y cyflwr yn helpu i leihau’r effaith mae epilepsi yn ei gael ar fywyd unigolyn.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ein llinell gymorth gyfrinachol ar 0800 228 9016, neu lawrlwytho ein canllaw “Cael y ffeithiau am epilepsi”.